SL(6)741 – Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu'r terfynau ffioedd uchaf y caniateir eu codi ar 'berson cymhwysol' sy'n ymgymryd â 'chwrs cymhwysol' addysg uwch at ddibenion adran 46(6) o Ddeddf Addysg ac Ymchwil Trydyddol (Cymru) 2022 ('Deddf 2022'). Maent hefyd yn darparu, os yw cwrs cymhwysol yn cael ei ddarparu gan drydydd parti ar ran darparwr addysg drydyddol cofrestredig, y caiff y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â'r cwrs hwnnw eu trin, at ddibenion adran 32(7) ac adran 46 o Ddeddf 2022, fel pe baent yn daladwy i'r darparwr cofrestredig.

Gweithdrefn

Gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r ffioedd uchaf a nodir yn y Rheoliadau drafft hyn yn gymwys i 'gwrs cymhwysol' sy’n cael ei wneud gan 'berson cymhwysol'.  Mae Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gan Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ar 27 Ionawr 2026 yn cadarnhau y bydd offeryn statudol ychwanegol yn cael ei wneud y mis hwn yn egluro’r ddau derm at y dibenion hyn. Mae paragraff 3.3 o'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau drafft hyn yn cadarnhau bod y telerau wedi'u pennu gan Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2026, nad ydynt wedi'u gosod eto. Heb yr ail set honno o Reoliadau, ni allwn ystyried cwmpas y telerau hyn ac felly sut y bydd y ffioedd uchaf yn gymwys yn ymarferol. Gofynnwn a allai'r ddwy set o Reoliadau fod wedi’u cyhoeddi gyda'i gilydd i alluogi gwaith craffu mwy effeithiol.   

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

4 Chwefror 2026